Mae ein cynllun ProTECH Cover+ yn sicrhau bod eich boeler wedi’i ddiogelu rhag difrod, ac mae ganddo un gwahaniaeth unigryw sy’n ei wneud yn well na’r gweddill – y gellir ei grynhoi mewn un gair – llaid! Dyna fo – rydym wedi cyfaddef! Rydym yn caru llaid, ond dydy’ch boeler ddim.
Fel arfer y prif reswm dros rywbeth yn mynd o’i le gyda’ch system gwres canolog yw llaid, ac nid yw’r un o’r darparwyr polisi yswiriant gofal cartref blaenllaw eraill yn cynnwys difrod yn ymwneud â llaid. Mae ein un ni yn gwneud!
miliwn o foeleri yn y DU
o'r holl boeleri yn torri oherwydd llaid
miliwn yn cael ei wario yn y DU ar atgyweiriadau annisgwyl i foeleri sy’n torri bob blwyddyn
miliwn o alwadau gwasanaeth y flwyddyn
tâl ychwanegol ar ein holl bolisïau!
Gwasanaeth o’r ansawdd uchaf am
dim costau ymlaen llaw*
*Dim costau ymlaen llaw os oes hidlydd Adey MagnaClean Professional3 Sense eisoes yn ei le, ond pe na bai hidlydd Adey Pro3 yn ei le, byddai tâl cychwynnol o £199+ TAW. Mae hyn yn cynnwys hidlydd Adey Pro3 (gwerth £175), gwaith gosod a gwasanaeth boeler llawn.
Mae hyn yn ein galluogi i fonitro eich system o’n swyddfa, fel y gallwn atal problemau posibl a all godi o laid neu faw gan roi tawelwch meddwl i chi y gallwn ddatrys y rhan fwyaf o broblemau posibl cyn iddynt ddigwydd.
O ran llaid – ni fydd angen i chi ein ffonio – byddwn yn eich ffonio chi.
Llaid, a elwir hefyd yn fagnetit, yw baw a rhwd sy’n cronni dros amser ac yn ymgasglu ar waelod eich rheiddiaduron. Dyma’r prif gyfrannwr at fethiant gwresogi. Mae llaid yn ffurfio o ganlyniad i gyrydiad o fewn system wresogi sydd, os na chaiff ei drin, yn cronni ac yn achosi nifer o broblemau costus.
Mae Adey MagnaClean yn ffilter magnetig sydd wedi’i gynllunio i gynnal a diogelu’r holl systemau gwres canolog domestig rhag effeithiau niweidiol llaid. Mae’r diogelwch hwn yn para trwy gydol oes y boeler ac yn helpu i leihau biliau ynni gwres canolog hyd at 7%.

Ymestynnwch oes eich systemau gwresogi ac osgowch doriadau annisgwyl.
Mwynhewch foeler sy'n gweithio’n well ac yn fwy effeithlon.
Byddwch yn fwy caredig i'r blaned gyda gostyngiad o 7% mewn allyriadau carbon.
Lleihewch eich biliau ynni hyd at £80 y flwyddyn.
Lleihewch y risg o alwadau brys ac ailosod rhannau drud.
Mae dros 60% o’r boeleri sy’n torri yn y 5 mlynedd gyntaf yn cael eu hachosi gan laid yn cronni, yn glynu wrth rannau o’ch system wresogi, yn atal eich boeler rhag gweithio’n effeithlon ac yn achosi i’ch rheiddiaduron gael mannau oer.
Bydd llaid yn rhoi pwysau ar eich boeler gan arwain at filiau atgyweirio a allai fod yn ddrud. Isod, mae rhai enghreifftiau o’r hyn y gallai rhannau newydd ei gostio.
Byddwn yno i gael eich cartref yn ôl i normal cyn gynted â phosibl
Y diwrnod y byddwch yn ymrwymo i’r polisi – mae eich cynllun yn dechrau!
Os ydych chi ar gynllun gyda darparwr arall ar hyn o bryd, rhowch alwad sydyn i ni a siaradwch ag un o’n cynghorwyr cyfeillgar a fydd yn gallu mynd trwy ein cynllun yn fwy trylwyr gyda chi a thrafod eich opsiynau.
01792 721162
Mae ein gwasanaeth blynyddol yn cynnwys:
Byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw’n amser ar gyfer eich gwasanaeth blynyddol ac yn trefnu amser a dyddiad addas i gynnal y gwasanaeth. Fodd bynnag, os yw’n amser ar gyfer eich gwasanaeth blynyddol ac nad ydych wedi derbyn galwad eto, gallwch ffoniwch ni ar:
01792 721162
Os cewch chi unrhyw drafferth gyda’ch boeler, ffoniwch ni ar:
01792 721162
Bydd eich cynllun yn adnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn felly nid oes angen i chi boeni am adnewyddu eich polisi, ac yn well eto, nid ydym yn codi pris eich cynllun wrth adnewyddu. Dim ond y gyfradd cynllun safonol y byddwch chi yn ei thalu fel unrhyw gwsmer arall.