Inswleiddio

Os oes gan eich cartref waliau solet, gallech arbed hyd at 50% ar eich biliau gwresogi misol. Mae gan tua 1 o bob 3 o gartrefi’r DU waliau solet, ac amcangyfrifir bod 45% o wres yn cael ei golli drwy’r waliau hyn.

Beth yw defnydd inswleiddio waliau solet?

Defnydd inswleiddio wal fewnol (IWI) yw byrddau plastr inswleiddio thermol sy’n cael eu cysylltu’n sownd â’ch waliau mewnol – sy’n agored yn uniongyrchol i’r elfennau allanol.

Nid oes angen insiwleiddio pob wal, dim ond lle byddai gennych berimedr colli gwres.

Yna caiff yr ardaloedd hyn eu plastro i safon uchel, gan sicrhau bod eich eiddo yn llawer mwy ynni-effeithlon yn ogystal ag edrych yn wych!

Inswleiddio
Plastro
Glanhau

Defnydd inswleiddio wal geudod

Defnyddir defnydd inswleiddio wal geudod i leihau colli gwres trwy wal geudod trwy lenwi’r gofod â deunydd sy’n atal trosglwyddo gwres. Mae hyn yn dal yr aer yn y ceudod, gan atal colli gwres ac arwain at gostau gwresogi is.

Gallai gosod defnydd inswleiddio wal geudod mewn tŷ pâr cyffredin arbed hyd at 45% o’r gwres sy’n cael ei golli drwy’r waliau.

Ystafell yn y to

Ystafell yn y to

Mae gwresogi yn cyfrif am hyd at 70% o’r ynni a ddefnyddir mewn cartref cyffredin.

Beth yw ystafell yn y to?

Gall inswleiddio ystafell yn y to helpu i atal gwres rhag dianc trwy do eich cartref, yn ogystal ag atal aer oer o’r tu allan rhag dod i mewn. Mae hyn yn golygu bod eich cartref yn aros yn gynhesach, gan leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio.

Gyda 25% o wres yn cael ei golli trwy do cartref – gosod defnydd inswleiddio yn y to yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal gwres rhag dianc ac arbed arian ar filiau gwresogi.

Mae defnydd inswleiddio ystafell yn y to yn aml yn cael ei ddrysu â defnydd inswleiddio atig, pan mewn gwirionedd, mae’n gynnyrch gwahanol iawn ac yn cynnwys proses osod wahanol. Defnyddir defnydd inswleiddio atig mewn atig nad yw’n cael ei meddiannu, ac yn hytrach – defnyddir defnydd inswleiddio ystafell yn y to mewn atig sydd wedi’i thrawsnewid, neu sy’n cael ei defnyddio, fel ystafell yn y tŷ.

Bydd y mesur effeithlonrwydd ynni hwn yn helpu i leihau eich biliau ynni a’ch allyriadau CO2.

Defnydd inswleiddio atig

Defnydd inswleiddio atig

Amcangyfrifir bod 25% o wres yn cael ei golli drwy’r to mewn cartref heb ei inswleiddio.

Beth yw defnydd inswleiddio atig?

Mae insiwleiddio eich atig neu do fflat yn ffordd syml ac effeithiol o atal eich cartref rhag colli gwres a lleihau eich biliau gwresogi. Mae defnydd inswleiddio atig yn effeithiol am o leiaf 40 mlynedd, ac mae’n hollol rhad ac am ddim o dan y cynllun. Os yw’n hawdd cael mynediad i’r atig ac mae’r distiau yn rhai cyffredin, gallwch ddefnyddio rholiau o ddefnydd inswleiddio gwlân mwynol.

Gosodir yr haen gyntaf rhwng y distiau, yna gosodir haen arall ar ongl sgwâr i orchuddio’r distiau a dod â’r defnydd inswleiddio i’r dyfnder gofynnol – mae’r safon newydd hyd at 300mm o ddyfnder i ddarparu’r effeithlonrwydd mwyaf posibl.

Pa gyllid sydd ar gael?

Gall grantiau diweddaraf y llywodraeth dalu am fesurau arbed ynni hyd at £45,000 i drin eich eiddo a lleihau eich defnydd o ynni. Mae’n hawdd gwneud cais os ydych yn derbyn budd-daliadau cymhwyso, ond efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth hyd yn oed os nad ydych yn derbyn budd-daliadau.

Manteision

Gwella ansawdd aer

Gall defnydd inswleiddio waliau solet mewnol sydd wedi'i osod yn broffesiynol atal llwch a llygryddion eraill rhag dod i mewn i'r cartref.

Biliau ynni is

Mewn cartref sydd wedi'i inswleiddio'n dda, mae llai o aer cynnes yn dianc o'r tŷ yn ystod y gaeaf, a llai o aer oer yn dianc yn ystod yr haf - gan leihau faint o ynni sydd ei angen ar gyfer gwresogi ac oeri eich cartref.

Gwella sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC)

Bydd cartref sydd wedi'i inswleiddio'n iawn yn gwella sgôr EPC eich eiddo, a all ei wneud yn fwy gwerthfawr. Bydd inswleiddio hefyd yn gwneud yr eiddo yn fwy deniadol i ddarpar brynwyr.

Gwarant

Mae ein gwaith wedi'i yswirio gan warant 25 mlynedd, felly gallwch fod yn hyderus bod y defnydd inswleiddio yn para am amser hir iawn.

Consumer Energy Solutions Limited
Right Menu IconDewislen