Ers dechrau’r 20fed ganrif, mae gwyddonwyr wedi gweld newidiadau hirdymor dramatig mewn tymheredd a phatrymau tywydd gan achosi effeithiau tywydd byd-eang dramatig. Cyfeirir at hyn fel newid yn yr hinsawdd. Gall y newidiadau hyn fod yn naturiol, megis trwy amrywiadau yn y cylch solar, ond mae gwyddonwyr yn cytuno mai dynoliaeth sy’n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o gynhesu byd-eang.
Prif achos newid yn yr hinsawdd yw llosgi tanwyddau ffosil fel olew, nwy a glo. Pan gânt eu llosgi, mae tanwyddau ffosil yn rhyddhau allyriadau carbon i’r aer, gan achosi i’r blaned gynhesu. Gwyddom fod y blaned wedi cynhesu bron i 1°C ar gyfartaledd yn y ganrif ddiwethaf. Os ydym am atal effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd, mae cytundeb byd-eang bod angen cadw codiadau tymheredd ymhell o dan 2°C. Fodd bynnag, mae asesiadau diweddar yn awgrymu y gallai’r tymheredd godi mor uchel â 4°C neu’n uwch.
Mae newid yn yr hinsawdd wedi dod yn fygythiad enfawr i’n byd naturiol gyda’r posibilrwydd realistig iawn o rywogaethau a systemau eco yn cael eu dileu’n llwyr. Wrth i’r blaned barhau i gynhesu, mae patrymau hinsawdd yn newid sy’n achosi tywydd eithafol ac anrhagweladwy sy’n effeithio ar ecosystemau, codi lefel y môr, gostwng ocsigen a bygwth cynefinoedd naturiol anifeiliaid gan achosi posibilrwydd uchel o ddifodiant torfol yn fyd-eang.
Gallwn eisoes weld yr effeithiau syfrdanol y mae newid yn yr hinsawdd yn eu cael ar holl fywyd y ddaear. Mae newid yn yr hinsawdd yn gofyn am gamau gweithredu uchelgeisiol ac ar unwaith i atal yr effeithiau gwaethaf y gall ei gael ar bobl a bywyd gwyllt ledled y byd. Amcangyfrifir bod 40% o allyriadau carbon yn dod o gartrefi yn y DU ac mae 31% o’r ganran honno’n dod o’r ffordd yr ydym yn gwresogi ein cartrefi.
Dyna pam mae CES yn gweithio’n galed i leihau allyriadau cartrefi’r DU drwy osod gwelliannau ynni effeithlon i gartrefi am ddim, gan gynnwys gwres carbon isel a phaneli solar i gynhyrchu eich trydan eich hun.
Yn CES mae gennym ddull ‘tŷ cyfan’ a all leihau eich biliau tanwydd a’ch allyriadau carbon, gan greu cartref mwy ecogyfeillgar.
Mae hynny’n cyfateb i bwysau rhino gwyn mewn oed
yn fwy effeithlon o gymharu â systemau gwresogi amgen
Gall 1 o bob 3 chartref sy’n defnyddio gwres trydan arbed 0.8 tunnell o CO2 y flwyddyn drwy newid i bympiau gwres
Hyd oes ASHP ar gyfartaledd yw 20 mlynedd sy’n cyfateb i blannu
Mae hynny’n cyfateb i bwysau hipopotamws mewn oed
yn llai o ddefnydd o ynni o gymharu â chartref heb ddefnydd inswleiddio mewnol
Mae angen gwell defnydd inswleiddio ar 19 miliwn o gartrefi yn y DU er mwyn cyrraedd y targed o sero net
Hyd oes defnydd inswleiddio cyfartalog yw 25 mlynedd sy’n cyfateb i blannu
Mae hynny’n cyfateb i bwysau morfil cefngrwm ifanc
Llai o allbwn carbon o gymharu â thrydan glo
Gallai cynhyrchu carbon isel leihau allyriadau 79% y flwyddyn ar gyfer cartref cyffredin
Hyd oes solar ar gyfartaledd yw 30 mlynedd sy’n cyfateb i blannu
With all 3 measures installed you could save more than 5.25 tonnes of CO2 a year.